LPW Grant Scheme
English / SaesnegEnglish Site


Cefndir

Mae’r Cynllun Grant Mannau Addoli Rhestredig yn rhoi grantiau tuag at y TAW a wariwyd yn gwneud atgyweiriadau i adeiladau rhestredig a ddefnyddir yn bennaf fel mannau addoli cyhoeddus.

Cyllid sydd ar gael

Mae cyllideb flynyddol sefydlog gan y cynllun. Hysbysir am hynny ar ddechrau pob blwyddyn.

Gwneir taliadau unwaith bob chwarter, a bydd y gyfradd sy’n daladwy yn dibynnu ar werth yr hawliadau cymwys a dderbyniwyd yn y chwarter hwnnw, gyda thaliad pro rata i’w dalu ar bob hawliad.

Y cyfanswm grant sy’n daladwy mewn ymateb i unrhyw gais fydd 20% o gostau’r prosiect (h.y. y cyfanswm sy’n daladwy fydd y gyfradd TAW lawn yn sgil gwariant cymwys). Os na ddefnyddir cyfanswm y cyllid mewn unrhyw chwarter, bydd ar gael yn y chwarter dilynol, ond ni fydd modd ei drosglwyddo rhwng blynyddoedd ariannol. Cawn ein hatal gan reolau cyfrifo rhag trosglwyddo cyllid dros ben ar ddiwedd blwyddyn i’r flwyddyn ariannol nesaf.

Cyhoeddwn bob chwarter gwerth yr hawliadau dilys a dderbyniwyd a gwerth a chyfradd canran daladwy'r hawliadau a wnaed.

Nesaf: y Cynllun Grantiau

[HAFAN] [MANYLION CYSWLLT]


The Department for Culture, Media & Sport

         Addef
Y Broses 4-Cam
Manylion cysylltu
Listed Places of Worship Grant Scheme
PO Box 609,
Newport NP10 8QD,
South Wales,
United Kingdom
Tel: 0845 601 5945