Cam 1 - Man Addoli Nodyn
1.1: 'yn unig neu'n bennaf'
Rhaid i'r adeilad gael ei ddefnyddio'n unig neu'n bennaf fel
man addoli cyhoeddus.
Adeiladau rhestredig ategol Nid yw'r rhain
yn cael eu cynnwys oni bai eu bod yn bodloni holl amodau'r
prif adeilad, h.y. cânt eu defnyddio'n unig neu'n bennaf
fel man addoli crefyddol cyhoeddus.
Nodyn 1.2: 'man addoli cyhoeddus'
Bwriad y cynllun yw cynorthwyo gydag atgyweirio mannau addoli
lle byddai’r costau’n gyfrifoldeb cynulleidfa
leol neu enwad neu grŵp ffydd cydnabyddedig. Nid yw capeli
preifat, a chapeli mewn ysgolion, colegau, prifysgolion, ysbytai,
carchardai ac elusendai yn gymwys o dan y cynllun
oni bai bod POB UN o’r canlynol yn
gymwys:
- Mae’r adeilad ar gael i’r cyhoedd am o leiaf
6 gwasanaeth crefyddol y flwyddyn, ac mae’r argaeledd
hwnnw’n cael ei gyhoeddi ac nid yw trwy wahoddiad
yn unig;
- Unig ddiben neu brif ddiben yr adeilad yw man addoli
crefyddol cyhoeddus;
- Cyfrifoldeb cynulleidfa leol neu grŵp ffydd cydnabyddedig
yw’r costau atgyweirio. Nid yw adeilad a ddefnyddir
neu sydd ar gael i'w ddefnyddio gan weinidog crefydd yn
unig neu'n bennaf fel preswylfa i gyflawni dyletswyddau
ei swydd yn cael ei gynnwys. Lle bo’r adeilad yn bodloni’r
holl feini prawf cymhwyster eraill ond yn cynnwys rhan sylweddol
o le at ddibenion heb fod yn rhai addoli, e.e. llety, gweithgareddau
hamdden, paratoi bwyd ar raddfa fasnachol ac ati, ni fyddwn
yn talu am atgyweiriadau i’r rhannau hyn.
Mae’r cynllun yn cynnwys sefydliadau crefyddol
â chyfansoddiad ffurfiol yn unig. Gofynnir
i chi ardystio bod y sefydliad crefyddol sy'n defnyddio'r
man addoli:
- â statws elusennol neu yn cael ei gydnabod yn elusen
gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu Gyllid y Wlad yn yr
Alban neu Ogledd Iwerddon; neu
- yn cael ei gwmpasu gan gyngor plwyf eglwysig, neu
- os nad yw'r un o'r rhain yn berthnasol, gofynnir i chi
roi copi o'ch cyfansoddiad.
Nodyn 1.3: 'chwe gwaith y flwyddyn'
Rhaid i'r adeilad gael ei ddefnyddio fel man addoli
cyhoeddus o leiaf chwe gwaith y flwyddyn.
Gofynnir i chi dystio bod hyn yn wir.
Nodyn 1.4: ‘mynachdai, lleiandai a chyrff penodol sy’n
gofalu am eglwysi segur’
Nid oes gofyn i fannau addoli a ddefnyddir gan fynachdai,
lleiandai neu sefydliadau tebyg eraill, ac eglwysi
ym mherchnogaeth neu wedi'u breinio mewn sefydliadau penodol
sy'n gofalu am fannau addoli segur fel yr
Ymddiriedolaeth Capeli Hanesyddol, Cyfeillion Eglwysi Digyfaill,
Ymddiriedolaeth Eglwysi Segur Yr Alban, Ymddiriedolaeth Cadw
Eglwysi ac Ymddiriedolaeth Adeiladu Crefyddol Cymru, ddangos
bod yr adeiladau yn cael eu defnyddio ar gyfer addoli cyhoeddus
o leiaf chwe gwaith y flwyddyn.
Ar gyfer mynachdai a lleiandai a sefydliadau tebyg
o ffydd arall, y rhan honno o’r adeilad a ddefnyddir
at addoli crefyddol yn unig sy’n gymwys. Nid yw rhannau
eraill o’r adeilad yn gymwys (e.e. y rheiny a ddefnyddir
at ddibenion llety, fel lle bwyta ac ati). Os yw’r gwaith
yn cynnwys rhannau sy’n gymwys a rhai nad ydynt yn gymwys,
yna rhaid rhannau’r rhain wrth wneud y cais.
|