LPW Grant Scheme
English / SaesnegEnglish Site

 

Cam 2 --- Adeilad Rhestredig

Cam 2. Nodyn 2.1: "adeilad rhestredig"
Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid bod eich eglwys wedi’i rhestru gyda’r asiantaeth restru statudol berthnasol (English Heritage, CADW, Historic Scotland neu Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon), a rhaid i’ch cais ymwneud ag atgyweiriadau a wnaed tra bod y rhestriad mewn grym.

Os anfonir eich cais yn ôl atoch oherwydd na allwn adnabod rhestriad eich adeilad, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu nad yw’ch eglwys wedi’i rhestru – gall olygu bod y manylion a gofrestrwyd ar y pryd ychydig yn wahanol i’r rhai a nodir ar y ffurflen gais. Dylech ddychwelyd eich ffurflen gais ynghyd â’r gwaith papur i ddangos eich rhestriad
gyda’r asiantaeth restru statudol berthnasol
.

Mae gwirio'r cofnodion statudol i gadarnhau bod eich adeilad wedi'i restru'n ffurfiol yn rhan o'n proses gymeradwyo.

Gellir rhestru adeiladau am eu pwysigrwydd pensaernïol neu hanesyddol, cysylltiad hanesyddol agos â phobl neu ddigwyddiadau pwysig yn genedlaethol, neu eu gwerth fel rhan o grwp, gan yr awdurdod rhestru yn eich gwlad. Mae oedran a phrinder yn ystyriaethau perthnasol, ond po hynaf yr adeilad, tebycaf yw y bydd wedi ei restru. Nid yw adeiladau sy'n llai na deng mlynedd ar hugain oed yn cael eu hystyried ar gyfer eu rhestru fel arfer.

Gwelir manylion am sut i geisio cael adeilad wedi'i restru yn yr adran: Rhestru Adeilad

Nesaf: Cam 3 --- Gwariant Cymwys

[HAFAN] [MANYLION CYSWLLT]


The Department for Culture, Media & Sport

         Addef
Y Broses 4-Cam
Manylion cysylltu
Listed Places of Worship Grant Scheme
PO Box 609,
Newport NP10 8QD,
South Wales,
United Kingdom
Tel: 0845 601 5945