LPW Grant Scheme
English / SaesnegEnglish Site

 

Cam 3 --- Gwariant Cymwys

Cam 3. Nodyn 3.1: Anfonebau dros 12 mis oed
Ni fydd anfonebau’n cael eu derbyn mwyach lle bônt dros 12 mis oed o’u dyddiad i ddyddiad derbyn y cais am grant.

Nodyn 3.2: 'wedi cofrestru at ddibenion TAW'
Mae'n rhaid i gontractwr sydd wedi'i gofrestru at ddibenion TAW wneud y gwaith a'r cynnal a chadw cymwys. Ni allwch hawlio at ddibenion TAW ar ddeunyddiau oni bai eu bod wedi eu hymgorffori yn yr adeiladwaith gan gontractwr sydd wedi ei gofrestru ar gyfer TAW.

Dylech sicrhau bod y contractwr wedi'i gofrestru at ddibenion TAW trwy ofyn am ei rif/rhif cofrestru TAW, y mae’n rhaid ei ddangos ar yr anfoneb. Cynhelir gwiriadau archwilio cyn talu ar ganran o hawliadau. Os cewch eich dewis ar gyfer un o’r gwiriadau hyn, dylech fod yn ymwybodol y byddwn yn cysylltu â’r holl gontractwyr rydych wedi hawlio TAW oddi wrthynt ar eich cais, er mwyn cadarnhau’r manylon gwahanol.

Gall mannau addoli sydd wedi eu cofrestru at ddibenion TAW am eu bod yn codi tâl mynediad neu'n cynnal gweithgareddau busnes, dalu cyfradd TAW net wirioneddol is ar eu hatgyweiriadau o dan gytundeb â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Y lefel o TAW anadferadwy yn achos yr adeiladau hyn fydd yr uchafswm sy’n daladwy o dan y cynllun, a dosrennir y ffigur hwn wedyn yn unol â gwerth hawliadau a dderbyniwyd yn y chwarter y derbynnir yr hawliad ynddo.

Nodyn 3.3: 'atgyweirio neu gynnal a chadw'
Dim ond gwaith a wneir i atgyweirio neu gynnal a chadw'r adeilad sy'n gymwys.

Mae'r adeiladwaith yn cynnwys ei sylfeini, waliau, toeau, nwyddau dŵr glaw, draeniau, arwynebau mewnol, lloriau, grisiau, pen grisiau, dargludyddion mellt a'i holl ddrysau a ffenestri (mae hyn yn cynnwys cynnal a chadw ffenest yn ogystal ag atgyweirio, ac felly gall darparu rhwyll i amddiffyn ffenestr werthfawr fod yn gymwys).

Bydd gwaith ar osodiadau a chyflenwadau gwresogi, plymwaith a thrydanol yn gymwys dan yr amgylchiadau canlynol yn unig:

  • Bod angen gosodiad neu gyflenwad dros dro er mwyn gwneud y gwaith atgyweirio cymwys, a’i fod yn cael ei symud ar ôl gwneud y gwaith;
  • Roedd gosodiadau mewn cyflwr gweithio da o’r blaen, ond fe’i difrodwyd wrth wneud atgyweiriadau cymwys;
  • Roedd angen eu symud er mwyn galluogi i’r gwaith cymwys gael ei wneud yn unig.

Nid ydynt yn gymwys lle:

  • Bo’u hangen am resymau Iechyd a Diogelwch (dirywiad oherwydd oed);
  • Gwnaed yr un pryd â’r gwaith cymwys; neu
  • Cawsant eu difrodi ar yr un adeg â phan roedd yr adeiladwaith yn cael ei atgyweirio.
  • Bod y gwasanaethau yn cael eu huwchraddio o ganlyniad. (Byddwn yn talu hyd at gost ailosod y gosodiadau gwreiddiol. Lle na fydd y rhain yn ymarferol neu’n gyfreithlon mwyach (yn unol â’r gyfraith neu weithdrefnau cyfredol), dylech gael pris gan y contractwr sy’n gyfwerth ag ailosod y gosodiadau gwreiddiol a chynnwys hyn gyda’ch cais.)

Lle’r oedd angen symud gosodiadau dim ond i alluogi gwneud gwaith cymwys, byddwn ond yn talu i ailosod y lefel ofynnol o osodiadau i wneud yr atgyweiriadau cymwys i’r adeiladwaith. Disgwyliwn y bydd rhannau yn cael eu harbed a’u hailddefnyddio lle bynnag y bydd modd. Lle’r ystyrir ei bod yn fwyaf cost effeithiol i symud gosodiadau yn gyfan gwbl cyn cychwyn ar waith yr adeiladwaith, dylech ddarparu dilysiad proffesiynol o hyn cyn cychwyn ar y gwaith er
mwyn dilysu’r graddau ei fod yn gymwys. Ni fyddwn yn talu unrhyw grant pan na ddilynir y camau hyn.

Nid yw gwaith i osodion a gosodiadau, fel gosodiadau cegin neu doiled, gorchuddion llawr, dodrefn, silffoedd, hysbysfyrddau ac eitemau datgysylltiol yn gymwys.

Nid yw codi adeiladau newydd neu rannau o adeiladau yn gymwys. Nid yw newidiadau, ac atgyweiriadau yn deillio o newidiadau, yn gymwys.

Nid yw gwaith a wneir ar adeiladau ac adeileddau ategol, fel cerrig bedd a chofebion mewn mynwentydd, waliau terfyn, waliau cynnal, clwydi, gerddi, pyrth mynwentydd neu feysydd parcio yn gymwys.

Ni dderbynnir ceisiadau ar gyfer arolygon, adroddiadau ac archwiliadau yn unig. Gellir hawlio unrhyw ffioedd am waith a wnaed cyn y gwaith perthnasol pan gânt eu cefnogi gan anfoneb am yr holl waith y maent yn cyfeirio ato neu ran ohono. Rhaid i’r gwaith hwn gael ei wneud gan gontractwr wedi’i gofrestru ar gyfer TAW. Ni fyddant yn gymwys lle bônt yn rhan o anfoneb ffioedd proffesiynol.

Rydym yn defnyddio’r term ‘draeniau’ i olygu’r pibwaith sy’n cario dŵr o’r safle yn hytrach na’r hyn sy’n cario dŵr i’r safle. Mae atgyweirio draeniau (dŵr budr, dŵr wyneb, Ffrengig) neu waith cynnal a chadw arnynt neu nwyddau dŵr glaw yn gymwys os ydynt o fewn y waliau terfyn. Os nad yw’r anfoneb yn nodi’r math o ddraen, rhaid cynnwys hyn gyda’r cais.

Ni ellir gwneud cais am ddeunyddiau os na fyddant wedi’u hymgorffori yn yr adeiladwaith gan gontractwr wedi’i gofrestru at ddibenion TAW a’u bod yn berthnasol i waith cymwys. Yn ogystal, ni ellir eu hawlio os na chânt eu cefnogi gan anfoneb berthnasol y contractwr.

Mae atgyweirio Allorau neu wneud gwaith cynnal a chadw arnynt yn gymwys yn unig pan fo’r allor wedi’i hadeiladu fel ei bod yn rhan o adeiladwaith yr adeilad neu wedi’i hymgorffori’n barhaol ynddo (h.y. byddai ei symud yn difrodi’r adeiladwaith). Os dyma’r achos, gwnewch hyn yn glir ar y ffurflen gais. Nid yw allorau yr ystyrir eu bod yn ddodrefn symudol yn gymwys.

Mae atgyweirio Cofebion neu wneud gwaith cynnal a chadw arnynt yn gymwys yn unig pan gânt eu hadeiladu fel eu bod yn rhan o adeiladwaith yr adeilad neu wedi’u hymgorffori’n barhaol ynddo (h.y. byddai eu symud yn difrodi’r adeiladwaith). Os dyma’r achos, gwnewch hyn yn glir ar y ffurflen gais.

Mae rheoli plâu yn gymwys ar yr amod ei fod yn ymwneud â’r adeiladwaith. Os na fydd yr anfoneb yn nodi’r math o bla, mae’n rhaid cynnwys hyn yn y cais.

Mae atgyweirio difrod sydd wedi’i achosi i’r adeiladwaith o ganlyniad i ladradau metel (gan gynnwys adnewyddu metelau sydd wedi’u dwyn) yn gymwys. Yn y mwyafrif o achosion, bydd yswirwyr yn talu costau difrod o’r fath; fodd bynnag, ni fydd y rhain fel arfer yn cynnwys swm y TAW, y dylid ei adennill drwy’r cynllun hwn. Dylech sicrhau nad yw’r anfoneb sy’n cefnogi’r cais wedi’i chyfeirio at y cwmni yswiriant, ond yn hytrach at yr eglwys, neu gyswllt perthnasol yn yr eglwys. Os nad oes yswiriant gennych, gellir hawlio’r swm TAW llawn o hyd drwy’r cynllun hwn. Dylech fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw rhai mesurau ataliol (gan gynnwys Technoleg SmartWater) yn gymwys.

Hawliadau yswiriant. Mae prif yswiriwr mannau addoli, sef Ecclesiatical Insurance Group, sy’n cynnwys polisïau a roddwyd gan Ansvar, The Baptist Insurance Company a Methodist Insurance, wedi dweud y bydd yn talu unrhyw hawliadau cymwys gan gynnwys TAW, sy’n golygu na fydd ceisiadau’n gymwys mwyach o dan y cynllun.

Rhestr Wirio Eitemau Cymwys

Mae’r rhestr ganlynol yn nodi’r eitemau sydd naill ai’n gymwys neu ddim yn gymwys yn unol â’r cynllun. Sylwch, nid yw’r rhestr hon yn un derfynol gan y gall fod rhai eitemau nad ydym wedi’u cynnwys. Os ydych yn ansicr p’un ai yw’ch cais yn gymwys ar gyfer derbyn grant ai peidio, ffoniwch y Cynllun Grant Mannau Addoli Rhestredig yn uniongyrchol ar 0845 601 5945.

EITEMAU CYMWYS

ADEILAD

  • Atgyweirio’r to
  • Atgyweirio’r gangell
  • Atgyweirio festri
  • Atgyweirio’r tŵr
  • Atgyweirio’r parapetau
  • Atgyweirio’r trawslathau
  • Ailblastro
  • Ailbwyntio
  • Atgyweirio’r gwaith carreg
  • Atgyweirio gwaith pren (yr adeiladwaith)
  • Atgyweirio Nwyddau Dŵr Glaw
  • Atgyweirio cafnau
  • Ailosod gwydr mewn ffenestri
  • Rhwyllau / Barau ffenestri
  • Atgyweirio’r croesfâu
  • Atgyweirio pinaclau
  • Atgyweirio rhonau
  • Atgyweirio talcenni
  • Atgyweirio draeniadau (dŵr glaw, dŵr budr, draen Ffrengig neu suddfan ddŵr – oll y tu fewn i’r waliau terfyn)
  • Atgyweirio ffenestri (neu ailosod tebyg am ei debyg)
  • Atgyweirio’r llawr (y llawr ei hun/ teils yn unig)
  • Atgyweirio’r/ Aileuro’r ceiliog gwynt
  • Atgyweirio’r meindwr
  • Dargludydd mellt
  • Polyn baner (dim ond os yw ar eglwys)
  • Croes (dim ond os yw ar eglwys)

ALLANOL

  • Atgyweirio’r/ Aileuro’r ceiliog gwynt
  • Atgyweirio’r meindwr
  • Dargludydd mellt
  • Polyn baner (dim ond os yw ar eglwys)
  • Croes (dim ond os yw ar eglwys)

MEWNOL

  • Atgyweirio drysau (os ydynt wedi’u hadeiladu yn yr adeiladwaith neu wedi’u hymgorffori ynddo)
  • Atgyweirio allorau (os ydynt wedi’u hadeiladu yn yr adeiladwaith neu wedi’u hymgorffori ynddo)
  • Atgyweirio’r bedyddfaen (os yw wedi’i hadeiladu yn yr adeiladwaith neu wedi’i hymgorffori ynddo)
  • Cofebion (os ydynt wedi’u hadeiladu yn yr adeiladwaith neu wedi’u hymgorffori ynddo)
  • Paentio waliau / Murluniau (costau teithio yn gymwys hefyd)

CYFFREDINOL

  • Trin lleithder
  • Rheoli Plâu
  • Cael gwared ar Asbestos (lle’i defnyddir fel deunydd adeiladu)
  • Cloeon / Colfachau
  • Grisiau (tebyg am ei debyg yn unig)
  • Glanhau (os yw hyn o ganlyniad i waith cymwys)
  • Rhagbaratoadau (ar gyfer gwaith cymwys yn unig)
  • Gwaith Trydan (DIM OND os:
    1. y gwnaed peirianwaith trydanol tros dro er mwyn gwneud gwaith cymwys, neu
    2. y cafodd peirianwaith trydanol a oedd yn gweithio’n dda ei ddifrodi wrth wneud gwaith cymwys – yn yr achos hwn, dim ond y peirianwaith trydanol a ddifrodwyd a fydd yn cael ei gynnwys)
  • Plymwaith (fel y gwaith trydan)
  • Gwaith addurno (os bydd hyn o ganlyniad i waith atgyweirio cymwys, neu yn waith cynnal a chadw’r adeiladwaith)
  • Ffrâm Cloch
  • Gwaith / Arolygon ymchwiliadol (dim
    ond lle mae hyn yn arwain at waith
    atgyweirio cymwys a’i fod yn cael ei
    wneud gan gontractwr wedi’i
    gofrestru ar gyfer TAW)
DDIM YN GYMWYS

MEWNOL

  • Allor (os yw’n sefyll yn rhydd, wedi’i gosod neu’n ddatgysylltiol)
  • Bedyddfaen (os yw’n sefyll yn rhydd, wedi’i gosod neu’n ddatgysylltiol)
  • Gorchudd lloriau
  • Cofeb (os yw’n sefyll yn rhydd, wedi’i gosod neu’n ddatgysylltiol)
  • Canllawiau
  • Organau
  • Eisteddleoedd (gan gynnwys clustogau pen-glin, hesorau a chlustogau seddau)

ALLANOL

  • Gwaith palmantu
  • Cael gwared ar goed
  • Waliau terfyn
  • Rheiliau
  • Pyrth mynwentydd
  • Waliau cynnal

CYFFREDINOL

  • Gwaith trydan
  • Plymwaith
  • Storio eitemau
  • Deunyddiau yn unig (rhaid eu hymgorffori naill ai mewn anfoneb contractwr wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, neu fod contractwr wedi’i gofrestru ar gyfer TAW yn eu defnyddio ar gyfer gwaith cymwys)
  • Gwaith mynediad neu newidiadau sy’n ofynnol er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (gan gynnwys Archwiliad Mynediad a ffioedd proffesiynol perthnasol)
  • Clychau a rhaffau clychau
  • Ffioedd proffesiynol
  • Taliadau Awdurdod Lleol
  • Clociau
  • Cael Gwared ar Asbestos (lle caiff ei ddefnyddio i inswleiddio pibelli, gwres a’r boeler)
  • Gwaith iechyd a diogelwch
  • Addurno (sy’n berthnasol i waith atgyweirio nad yw’n gymwys, neu y dewisir ymgymryd ag ef)
  • Cynllun Cynnal a Chadw
  • Hysbysfyrddau
  • Silffoedd
  • Cypyrddau

Nodyn 3.4: 'anfoneb TAW'
Gyda'ch cais, mae'n rhaid cyflwyno anfoneb wreiddiol (neu anfoneb wreiddiol wedi'i derbynebu) oddi wrth y contractwr sy'n ardystio bod TAW wedi'i thalu. Ni fydd ceisiadau'n cael eu talu heb y dystiolaeth ddogfennol wreiddiol hon. Nid yw llungopïau o anfonebau yn dderbyniol.

Ni fydd anfonebau’n cael eu derbyn mwyach lle bônt dros 12 mis oed o’u dyddiad i ddyddiad derbyn y cais am grant.

Rhaid i bob anfoneb ddangos rhif cofrestru TAW contractwyr, a’r dyddiad cyflwyno. Os nad yw’r manylion hyn wedi’u nodi, bydd yr anfoneb yn annerbyniol, a bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Os nad yw’r anfonebau gwreiddiol gennych, gofynnwch i’r contractwr eu hailgynhyrchu cyn cyflwyno’ch cais. Os yw’r contractwr yn methu ag ailgynhyrchu’r anfoneb, fe’i derbynnir cyn belled ag y bo’n cael ei anodi ‘copi gwirioneddol ac ardystiedig’, wedi’i lofnodi a’i ddyddio gan y contractwr. Rhaid i gopïau o anfonebau ddangos y dyddiad cyflwyno gwreiddiol hefyd.

Dim ond gwaith y talwyd TAW arno sy'n gymwys.

Lle bo cais yn cynnwys anfoneb sy’n berthnasol i adeiladau cymwys neu rhai nad ydynt yn gymwys, atgyweirio neu waith cynnal a chadw, rhaid datgan y rhaniad naill ai yn yr anfoneb neu yng ngholofn 4 cwestiwn 23.

Lleiafswm gwerth gwaith sy'n gymwys ar gyfer y cynllun yw £1,000 (heb gynnwys TAW). Gall cais gynnwys nifer o anfonebau llai, ond rhaid i bob hawliad fod ar gyfer gwaith sy'n gymwys o dan y cynllun a rhaid iddynt ffurfio cyfanswm hawliad o nid llai na £1,000 net. Byddwch yn ymwybodol bod rhif adnabod unigryw gan bob eglwys, felly at ddibenion ailrecordio ac adrodd, rhaid cwblhau cais ar wahân ar gyfer pob eglwys unigol.

Nodyn 3.5: Anfonebau Cadw
Lle bo modd, dylai anfonebau cadw gael eu cynnwys ar geisiadau terfynol, neu gyda gwariant ychwanegol cymwys er mwyn gwneud yn siwr y bodlonir yr isafswm o £1,000. Lle’r ydych yn gallu cynnwys yr anfoneb gadw mewn hawliad sy’n bodloni’r isafswm, gan gynnwys gwariant cymwys ychwanegol fel bo angen, sicrhewch fod yr holl anfonebau’n cael eu cyflwyno cyn pen 12 mis o’r dyddiad cyflwyno.

Nodyn 3.6: 'dyfarniad grant blaenorol'
Os yw’r gwaith dan sylw wedi bod yn destun dyfarniad grant blaenorol am gostau gwaith adeiladu, gan gynnwys TAW, oddi wrth:

  • English Heritage;
  • Historic Scotland;
  • Cadw;
  • Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon;
  • Cronfa Dreftadaeth y Loteri:
  • Dosbarthwr arall y Loteri.

Bydd yn ofynnol i fannau addoli dalu’r gyfran berthnasol o'r grant a dderbynnir o'r Cynllun Grant Mannau Addoli Rhestredig yn ôl i'r asiantaethau statudol (uchod), oni bai bod y grant gwreiddiol eisoes wedi'i addasu i ystyried y Cynllun Grant Mannau Addoli Rhestredig. Fel llofnodwr, gofynnir i chi ardystio y bydd y man addoli yn talu'r ad-daliadau sy'n ddyledus. Bydd manylion y ceisiadau hyn yn cael eu rhoi i'r asiantaethau dyfarnu grantiau perthnasol.

Nodyn 3.7: ' Cyllid a Thollau EM '
Gall cyflenwi a gosod rhai cymhorthion penodol ar gyfer pobl anabl, a rhai addasiadau penodol i adeiladwaith adeiladau cymunedol rhestredig, gan gynnwys eglwysi, fod yn gymwys i TAW sero gael ei chodi yn yr anfoneb. Mae gwaith o'r fath yn anghymwys o dan y Cynllun Mannau Addoli Rhestredig. I weld p'un a allai eich gwaith arfaethedig
fod yn gymwys ar gyfer TAW sero o'r cychwyn, cysylltwch â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar 0845 010 9000. Mae Hysbysiad TAW 708 yn ymwneud ag Adeiladau a Gwaith Adeiladu. Mae Hysbysiad TAW 701/7 yn ymwneud â chymhorthion TAW ar gyfer pobl anabl. Gwelir y naill a'r llall yn http://www.hmrc.gov.uk/

Os codir tâl TAW arnoch yn anghywir, efallai y bydd eich cyflenwr yn gallu addasu ei gofnodion TAW ac ad-dalu'r TAW i chi. Ceir rhagor o fanylion ynghylch sut y gwneir hyn yn Hysbysiad TAW 700/45: "Sut i gywiro camgymeriadau TAW a gwneud addasiadau neu hawlio"

Agor y Ffurflen Gais

[HAFAN] [MANYLION CYSWLLT]


The Department for Culture, Media & Sport

         Addef
Y Broses 4-Cam
Manylion cysylltu
Listed Places of Worship Grant Scheme
PO Box 609,
Newport NP10 8QD,
South Wales,
United Kingdom
Tel: 0845 601 5945