LPW Grant Scheme
English / SaesnegEnglish Site

 

Cam 4 – Llenwi’r Ffurflen Gais

Peidiwch â llenwi'r ffurflen ond os ydych wedi dilyn y broses 4 cam a ddisgrifir uchod ac yn credu eich bod yn gymwys am y cynllun.

Llenwch y ffurflen gais yn glir a gwnewch yn siwr eich bod wedi llenwi pob adran. Bydd hyn yn gymorth i osgoi unrhyw oedi wrth brosesu a thalu eich hawliad. Ar ôl ei llenwi anfonwch y ffurflen gais i’r Cynllun Grant Mannau Addoli Rhestredig, Blwch Post 609, Casnewydd, De Cymru NP10 8QD.

Os oes arnoch angen unrhyw gymorth, ffoniwch un o'n gweithredwyr ar 0845 601 5945. Codir pris galwad leol am yr alwad.

Adran 1: Manylion Cyswllt Cyfarwyddiadau
1. Enw/cysegriad y man addoli rhestredig Rhowch enw llawn y man addoli rhestredig y mae'r cais yn ymwneud ag ef
2. Cyfeiriad y man addoli rhestredig. Rhowch gyfeiriad yr addoldy rhestredig y mae'r cais yn ymwneud ag ef. Sylwch fod yn rhaid nodi enw’r Sir ym mhob achos.
3. Enw'r awdurdod lleol /cyngor y mae'r man addoli rhestredig ynddo Rhowch enw'r awdurdod neu'r cyngor lleol lle lleolir y man addoli. Y Cyngor Unedol fydd hwn yng Nghymru a'r Alban. Y Cyngor Dosbarth fydd hwn yng Ngogledd Iwerddon. Yn Lloegr, bydd un ai'n Fwrdeistref Llundain, y Fwrdeistref Fetropolitan, y Cyngor Dosbarth neu'r Cyngor Unedol
4. Crefydd neu enwad. Nodwch ba grefydd a/neu enwad a wasanaethir gan y man addoli
5. Enw'r unigolyn/corff sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am y gwaith sy'n destun y cais. Efallai mai chi yw hwn, neu gorff arall
6. Manylion y cyd-lofnodwr Rhaid iddo fod yn unigolyn sydd mewn swydd gyfrifol yn y corff sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am y man addoli, e.e. offeiriad, gweinidog ac ati
7.Manylion at ddibenion gohebu. Nodwch enw’r sawl a fyddai orau i ymdrin ag ymholiadau pe bai’r angen yn codi. Dylech fod yn ymwybodol hefyd y bydd yr unigolyn hwn yn derbyn pob gohebiaeth (gan gynnwys Taliadau ac anfonebau a ddychwelir).
Adran 2: Man Addoli Cyfarwyddiadau
8. Gweler Cam 1 yn y nodiadau arweiniad.
9. Gweler Cam 1 yn y nodiadau arweiniad
10. Gweler Cam 1 yn y nodiadau arweiniad
11. Gweler Cam 1 yn y nodiadau arweiniad
Adran 3: Adeilad Rhestredig Cyfarwyddiadau
12. Gweler Cam 2 yn y nodiadau arweiniad.
13. Gradd neu gategori rhestru: Mae nifer o raddau neu gategorïau o adeiladau rhestredig. Os gwyddoch beth yw'r radd neu'r categori rhestru, nodwch ef yma
Adran 4: Gwariant Cymwys Cyfarwyddiadau
14. Gweler Cam 3 yn y nodiadau arweiniad.
15. Disgrifiad o'r gwaith. Sylwch y bydd angen i ni sicrhau bod y gwaith yn ymwneud ag adeiladwaith yr adeilad fel yr esboniwyd yng Ngham 3 o nodiadau'r arweiniad. Dylech sicrhau bod y dogfennau ategol a amgaeir yn ein galluogi ni i wneud hyn.
16. Gweler Cam 3 yn y nodiadau arweiniad.
17. Gweler Cam 3 yn y nodiadau arweiniad.
18. Cyfradd TAW net wirioneddol Bydd angen i ni weld tystiolaeth o’r gyfradd TAW a gytunwyd gyda Chyllid a Thollau EM. Bydd y dystiolaeth hon fel arfer ar ffurf llythyr oddi wrth Gyllid a Thollau EM, a dylid ei gynnwys gyda'ch cais.
19. Fel uchod.
20. Gweler Cam 3 yn y nodiadau arweiniad.
Adran 5: Eich hawliad  
Dangosir enghreifftiau o hawliadau isod:
Mae’r gwaith ar yr anfoneb yn gwbl gymwys:

Cyf . Anfoneb

Cyfanswm Net
(1)

Cyfradd TAW
(2)

% o’r Gwaith Cymwys a Adenillir
(3)
Cyfanswm Gwerth y Grant a Hawliwyd
(4)
ABC123
£150.00
20%
100%
£30.00

(1) Swm cymwys yr anfoneb cyn ychwanegu TAW
(2) Cyfradd wirioneddol TAW a godwyd (20% fydd y gyfradd TAW gyfredol yn y mwyafrif o achosion)
(3) Y gwaith a nodir ar yr anfoneb rydych yn ei ystyried yn gymwys (Mae’r enghraifft yn gwbl gymwys, ac felly 100% yw hwn). Dim ond yn rhannol gymwys y mae’r enghraifft isod, felly mae hyn yn dangos canran is).
(4) Yr arian yr ydych yn gofyn amdano gan y cynllun grant mewn perthynas â’r anfoneb benodedig.

Mae’r gwaith ar yr anfoneb ond yn rhannol gymwys:

Cyf Anfoneb

Cyfanswm Net
(1)

Cyfradd TAW
(2)

% o’r Gwaith Cymwys a Adenillir
(3)
Cyfanswm Gwerth y Grant a Hawliwyd
(4)
ABC123
£150.00
20%
75%
£22.50

Yr isafswm y gallwch ei hawlio mewn cais unigol yw'r TAW sy'n codi o waith cymwys sy'n costio £1,000. Os nad ydych wedi gwneud gwaith hyd at y swm hwn, a wnewch chi gadw eich holl ddogfennaeth a chyflwyno'r cais pan fydd gennych yr anfonebau cymwys ychwanegol, a fydd yn dod â'r swm sy'n cael ei hawlio i'r isafswm gofynnol.

Adran 6: Eich manylion talu
Gwneir taliadau dim ond i gyfrifon banc/cymdeithas adeiladu a awdurdodwyd at ddefnydd swyddogol gan y man addoli sy'n destun y cais.
Adran 7: Datganiad
Dylai dau unigolyn gwahanol sydd wedi'u hawdurdodi gan y sefydliad sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol dros y man addoli, lofnodi a chydlofnodi'r datganiad hwn. Er enghraifft, efallai mai'r Trysorydd yw'r llofnodydd, a'r offeiriad neu'r gweinidog yw'r cyd-lofnodydd. Dylai'r cyd-lofnodydd fod mewn swydd uwch.

Nesaf: Rhestru Adeilad

[HAFAN] [MANYLION CYSWLLT]


The Department for Culture, Media & Sport

         Addef
Y Broses 4-Cam
Manylion cysylltu
Listed Places of Worship Grant Scheme
PO Box 609,
Newport NP10 8QD,
South Wales,
United Kingdom
Tel: 0845 601 5945