LPW Grant Scheme
English / SaesnegEnglish Site

 


CWESTIYNAU CYFFREDIN

YMHOLIADAU YN YMWNEUD Â RHESTRU
1. Dydw i ddim yn gwybod a yw’r eglwys yn adeilad rhestredig? Ble y gallaf gael y wybodaeth hon?

Cysylltwch naill ai ag Adran Gynllunio eich Awdurdod Lleol, neu'r asiantaeth restru statudol berthnasol (am fanylion ar gyfer cysylltu, cyfeiriwch at Atodiad A ar glawr ôl y daflen hon)

Ni fydd atgyweiriadau i adeiladau anrhestredig yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn. Fodd bynnag, os ydych yn ystyried bod yr adeilad yn haeddu cael ei restru, dylech ystyried cyflwyno cais i'r asiantaeth restru statudol berthnasol.

2. Os ydw i'n trefnu rhestru fy adeilad nawr, a allaf wneud cais ar gyfer gwaith a wnaed cyn ei restru?

Na. Ni dderbynnir ceisiadau am waith a wnaed ar adeiladau nad ydynt wedi'u rhestru ar yr adeg honno, ni waeth a ydynt yn cael eu rhestru wedyn yn y dyfodol. Ystyrir ceisiadau yn unig am atgyweirio adeiladau sydd wedi'u rhestru pan wneir y gwaith.

3. Dydw i ddim yn gwybod beth yw’r radd / categori rhestru. Ydy hyn o bwys?

Nac ydyw, ar gyfer croesgyfeirio'ch manylion ar ein cofrestr o adeiladau rhestredig yn unig y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon. Gellir gadael C13 yn wag – ni fydd hyn yn achosi oedi o ran prosesu’ch cais.

YMHOLIADAU ANFONEBAU / TAW
4. A allaf wneud cais os ydw i wedi colli fy anfonebau TAW?

Gallwch ddarparu anfoneb daledig wreiddiol yn eu lle. Os na allwch wneud hynny, bydd angen i'ch contractwr ailgynhyrchu eich anfonebau, ac mae'n rhaid i'r contractwr nodi eu bod yn gopi gwir ac ardystiedig, eu llofnodi a'u dyddio. Os na ddarperir anfoneb addas, bydd hyn yn golygu na dderbynnir y cais.

5. A allaf wneud cais os nad ydw i wedi talu fy anfoneb TAW?

Na allwch. Mae'n rhaid eich bod wedi talu eich anfoneb TAW cyn gwneud cais am grant o dan y cynllun hwn.

6. A allaf gyflwyno fy holl anfonebau i’r gweithredwr er mwyn iddynt hwy benderfynu beth sy'n gymwys?

Na allwch. Mae'n hanfodol eich bod yn darllen yr Arweiniad ar y Cynllun Grant Mannau Addoli Rhestredig ac yn cyflwyno dim ond yr anfonebau hynny sydd a wnelont â gwaith sy'n gymwys o dan y cynllun hwn. Bydd cyflwyno nifer fawr o anfonebau amhriodol i'r gweithredwr yn cynyddu'r posibilrwydd o wrthod eich cais, a gall achosi oedi cyffredinol wrth brosesu ceisiadau.

7. A oes rhaid i’r contractwr fod wedi'i gofrestru ar gyfer TAW er mwyn bod yn gymwys?

Oes.

8. Os byddaf yn gwneud y gwaith yn uniongyrchol a bod yn rhaid talu TAW, a oes modd i mi adennill hyn?

Oes, ond ar yr amod eich bod yn gontractwr sydd wedi'i gofrestru ar gyfer TAW.

9. Gwnaed y gwaith gan gontractwr nad yw wedi'i gofrestru/chofrestru ar gyfer TAW. A allwn ni hawlio'r TAW ar gyfer y deunyddiau y gwnaethom eu prynu?

Na. Ni allwch hawlio TAW ar ddeunyddiau oni bai eu bod wedi'u cynnwys yn yr adeiladwaith gan gontractwr sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW.

10. A allaf gyflwyno anfonebau sydd dros 12 mis oed os ydynt yn ymwneud â gwaith cymwys?

Na allwch, bydd anfonebau sydd dros 12 mis oed yn cael eu gwrthod fel rhai anghymwys.

YMHOLIADAU YN YMWNEUD Â’R FFURFLEN GAIS
11. A oes ots os na fydd gan y bobl sy'n llofnodi'r ffurflen wybodaeth lawn am y gwaith a wnaed?

Rhaid mai'r cyd-lofnodwr sydd â'r uwch swydd, a rhaid iddo nodi ei fanylion yn C6. Fodd bynnag, os nad dyma'r unigolyn gorau i gysylltu ag ef ar gyfer ymholiadau, rhaid nodi dewis arall yn C7. Dyma'r unigolyn y byddwn yn cyfeirio pob ymholiad ato ac yn dychwelyd yr holl waith papur iddo.

Os nad oes dewis arall wedi'i nodi yn C7, y cydlofnodwr y ceir manylion amdano yn C6 fydd y prif gyswllt.

Ni allwn gyfathrebu ag unrhyw drydydd parti (h.y. contractwr, pensaer ac ati).

12. A fydd y wybodaeth a gyflwynir ar ffurflen gais Mannau Addoli Rhestredig yn cael ei rhannu ag asiantaethau statudol eraill?

Bydd. Hysbysir asiantaethau statudol am yr holl grantiau a ddyfernir o dan y Cynllun Mannau Addoli Rhestredig. Gwneir hyn er mwyn osgoi'r posibilrwydd o dalu arian cyhoeddus ddwywaith am yr un costau, i bob pwrpas.

13. A allaf wneud cais am grant Mannau Addoli Rhestredig ac am grant gan asiantaeth statudol arall am yr un gwaith?

Gallwch. Fodd bynnag, rhaid i chi sicrhau bod y grant gan yr asiantaeth statudol arall yn ystyried eich grant Mannau Addoli Rhestredig.

Os nad yw’n gwneud hynny, yna bydd yn rhaid i chi ad-dalu iddynt y gyfran berthnasol o'r arian a gewch ar gyfer y grant Mannau Addoli Rhestredig.

14. Dyfarniadau grant blaenorol – pam na all y cynllun Mannau Addoli Rhestredig leihau'r swm sy'n ddyledus i'r eglwys, ac ad-dalu'r sefydliad grant yn uniongyrchol?

Contract rhwng yr eglwys a'r corff sy'n talu'r grant yw unrhyw ddyfarniad grant blaenorol, ac nid yw'n gysylltiedig â'r cynllun hwn.

15. Defnyddir yr eglwys yn ogystal ar gyfer cyfarfodydd cymunedol, grwpiau sgowtiaid, ac ati. A yw hyn yn iawn?

Ydy, mae hyn yn iawn os addoli crefyddol cyhoeddus yw’r prif ddefnydd. Fodd bynnag, os oes unrhyw ran o’r eglwys yn cael ei defnyddio fel llety, nid yw’r elfen hon yn gymwys o dan y cynllun.

Pan fydd anfonebau yn cynnwys yr eglwys a’r llety, rhaid dangos y rhaniad yn y gost yn glir naill ai ar yr anfoneb neu ar y ffurflen gais.

16. Mae'r eglwys ar gau ar hyn o bryd am resymau iechyd a diogelwch. Felly, nid yw wedi cynnal chwe gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. A ydw i'n dal i fod yn gymwys?

Ar yr amod bod y gwaith wedi'i ddechrau ymhen cyfnod byr ar ôl cau'r eglwys, a'i bod wedi cael ei defnyddio ar gyfer o leiaf chwe gwasanaeth yn ystod y flwyddyn flaenorol cyn ei chau, mae hyn yn iawn.

Mewn achosion lle mae oedi rhwng y cau a’r gwaith yn dechrau, cysylltwch â'r Llinell Gymorth ar 0845 601 5945 am arweiniad. (Dylech fod yn ymwybodol y gallai fod angen i ni gyfeirio'ch achos at yr Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon am benderfyniad ar gymhwyster eich cais).

17. Mae Cwestiwn 23 yn ddryslyd.

Os ydych yn ei chael hi’n anodd llenwi'r adran hon o'r ffurflen gais, cysylltwch â'r Llinell Gymorth. Fel arall, gadewch y bwlch ar gyfer ateb y cwestiwn hwn yn wag. Ni fydd hyn yn achosi oedi cyn gwneud y taliad, oherwydd gallwn gael y wybodaeth sy'n ofynnol o'r anfonebau. Os oes angen egluro unrhyw bwyntiau arnom, byddwn yn cysylltu â'r sawl a benodwyd i dderbyn gohebiaeth.

YMHOLIADAU YNGHYLCH CYMHWYSTER
18. Pam nad yw'r gwaith sy'n gysylltiedig â mynediad ar gyfer pobl anabl yn gymwys?

Yn gyffredinol, bydd gwaith a wneir mewn perthynas â dyletswyddau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (DGSA), neu waith arall i hwyluso mynediad i bobl anabl, yn cael ei ystyried yn 'welliannau' neu osodion a gosodiadau ychwanegol.

Dylai gwaith i ddarparu mynediad i gadair olwyn, gan gynnwys ehangu unrhyw fylchau drysau, gosod rampiau neu gael gwared ar bibwaith, a wnaed mewn perthynas â gofynion DGSA, fod yn gymwys o dan y system gymorth TAW, a dylai gael cyfradd TAW sero yn yr anfoneb. Gallai gwaith arall fod yn gymwys am gymorth hefyd. Am wybodaeth ynghylch codi tâl TAW, dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM yn uniongyrchol ar 0845 010 9000 neu edrychwch ar hysbysiad TAW 701/7.

19. Gwaith trydan, plymwaith a gwres – pam nad yw'r rhain yn gymwys?

Gosodion a gosodiadau yw'r rhain. Mae gwaith yn gymwys yn unig os daw o dan y naill neu'r llall o'r categorïau canlynol:

1. Mae'r gwaith yn waith dros dro (h.y. goleuadau dros dro, generaduron), ac mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith atgyweirio cymwys. Rhaid cael gwared ar y rhain ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.

2. Crëwyd y gwaith wrth wneud gwaith atgyweirio cymwys arall (h.y. wrth drwsio wal, difrodwyd gwaith trydan). Yn yr enghraifft hon, dim ond yr elfen a ddifrodwyd sy'n gymwys, ac nid yw'r gwaith a wnaed ar yr un pryd yn gymwys.

20. A allaf hawlio am dâl cadw yn unig sydd yn llai na £1,000, ond sy’n berthnasol i waith y penderfynwyd arno yn flaenorol drwy'r cynllun?

Na. Ymdrinnir â phob cais yn unigol, felly rhaid iddynt gyrraedd y trothwy gofynnol, sef £1,000. Os yw eich tâl cadw yn debygol o fod yn is na'r swm hwn, byddem yn eich cynghori i gadw'r cais terfynol nes eich bod yn gallu cynnwys yr anfoneb hon.

YMHOLIADAU CYFFREDINOL
21. Beth yw'r dyddiad cau / terfyn amser ar gyfer cyflwyno cais?

Trefnwyd bod cyllid ar gael i gynnal y cynllun hyd at 2014/15. Ni ellir gwarantu y bydd y cynllun yn cael ei ymestyn ymhellach na hyn. Bydd y cynllun ond yn derbyn anfonebau hyd at 12 mis o’r dyddiad cyflwyno.

22. A oes cyfyngiad ar nifer y ceisiadau y gallaf eu cyflwyno?

Nac oes.

23. Apeliadau – Beth allaf ei wneud os derbyniaf daliad nad wyf yn cytuno ag ef?

Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’r Llinell Gymorth Mannau Addoli Rhestredig. Os yw'r mater yn parhau heb ei ddatrys, cyfeirir eich cais at yr Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer penderfyniad terfynol.

24. Wrth wneud cais, a allwn ni enwebu i bwy y gwneir y taliadau?

Dylid gwneud taliadau i'r sefydliad sy'n talu'r gost TAW am yr atgyweirio – y Cyngor Plwyf Eglwysig neu gorff priodol fyddai hwn fel arfer.

YMHOLIADAU YN YMWNEUD Â THALIADAU
25. Sut bydda i’n gwybod a fydd fy nghais yn cael ei dalu’n llawn neu a fydd dosraniad pro rata yn cael ei gymhwyso?

Ni ellir penderfynu hyn nes bod yr holl daliadau wedi’u prosesu a’n bod yn gwybod beth yw’r cyfanswm sy’n ddyledus.

26. Os yw dosraniad pro rata wedi’i gymhwyso i’m taliad, a allaf hawlio’r gweddill eto?

Na allwch, pan fydd eich anfoneb wedi’i thalu, ni fyddwch yn gallu adhawlio unrhyw swm ychwanegol.

27. Beth os nad ydw i’n hapus â’r dosraniad pro rata sydd wedi’i gymhwyso i’m cais – a fyddaf yn gallu apelio?

Na fyddwch, bydd y swm pro rata’n cael ei gyfrifo ar sail y cyfanswm a hawlir mewn perthynas â’r terfyn chwarterol yn y cyfnod hwnnw. Bydd yr un dosraniad yn gymwys i bawb sy’n gwneud cais o fewn y cyfnod talu.

28. Os bydd fy nhaliad yn gwrthod, a fydda i’n cael swm llai neu fwy pan ad-delir yr hawliad?

Na, bydd eich hawliad yn cael ei dalu ar y swm pro rata y cawsoch eich hysbysu amdano’n flaenorol.

29. Os ydw i’n gwneud gwaith contract, a fydda i’n cael yr un dosraniad pro rata ar gyfer yr holl hawliadau o fewn y contract?

Na fyddwch, bydd unrhyw ddosraniad pro rata a gymhwysir yn seiliedig ar y terfynau talu chwarterol, nid eich contract gwaith.

30. Sut y caf wybod fod dosraniad pro rata wedi’i gymhwyso i’m taliad?

Bydd eich taliad yn nodi manylion y swm cymwys, ynghyd â’r ganran pro rata, a swm y taliad o ganlyniad i hynny.

[HAFAN] [MANYLION CYSWLLT]


The Department for Culture, Media & Sport

         Addef
Y Broses 4-Cam
Manylion cysylltu
Listed Places of Worship Grant Scheme
PO Box 609,
Newport NP10 8QD,
South Wales,
United Kingdom
Tel: 0845 601 5945